BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

 business people at work in corporate office

Gallwch wella cystadleurwydd a chynhyrchiant eich busnes drwy bartneriaethau a ariennir gydag academyddion ac ymchwilwyr. Mae’r cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn helpu busnesau yn y DU i arloesi a thyfu. Mae’n gwneud hyn drwy eu paru â sefydliadau ymchwil neu academaidd a graddedigion.

Gyda Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, gall busnesau gael sgiliau newydd a chael gwybod am y syniadau academaidd diweddaraf, er mwyn cyflawni prosiect arloesi penodol a strategol drwy bartneriaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth.

Bydd y partner sefydliad ymchwil neu academaidd yn helpu i recriwtio graddedigion addas, sef Cymdeithion. Byddan nhw’n gweithredu fel cyflogwyr y graddedigion, a fydd wedyn yn gweithio i’r cwmni drwy gydol y cyfnod.

Mae rhaglenni Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn rhedeg yn barhaus drwy’r flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth ewch i: Knowledge Transfer Partnership guidance – UKRI 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.