Mae’r cynllun Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn galluogi i fusnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU neu sefydliadau nid-er-elw weithio mewn partneriaeth â sefydliadau addysg uwch (AU), addysg bellach (AB), sefydliadau ymchwil a thechnoleg neu Gatapwlt yn y DU.
Gall sefydliadau academaidd sydd wedi eu cofrestru yn y DU, sefydliadau ymchwil a thechnoleg neu Gatapwlt wneud cais am gyfran o hyd at £6 miliwn i gyllido prosiectau arloesol gyda busnesau neu sefydliadau nid-er-elw.
Mae’n rhaid i bob cais gael ei arwain gan sail wybodaeth, gan weithio gyda phartner busnes. Os ydych chi o sail wybodaeth nad yw eto wedi datblygu prosiect, y cam cyntaf yw ddarllen y canllawiau KTP. Os ydych chi’n fusnes, cysylltwch â’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth.
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 11am ddydd Mercher 29 Medi 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.