BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn cymorth i helpu gweithgynhyrchwyr i dorri costau ynni

Female engineer worker enjoy working in factory industry.

Wrth i'r gaeaf nesáu, bydd cost ynni yn bryder allweddol i fusnesau o bob math ledled y DU.

Mae'r High Value Manufacturing (HVM) Catapult wedi lansio cynllun peilot i helpu gweithgynhyrchwyr bach i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r Pecyn Cymorth Ynni Gweithgynhyrchu yn asesiad dan arweiniad sy'n cael ei gynnal gan arbenigwyr HVM Catapult i greu dealltwriaeth well o ddefnydd a ffynonellau ynni.

Gyda'r Pecyn Cymorth Ynni Gweithgynhyrchu, mae'r HVM Catapult yn agor ei ddrysau i helpu gweithgynhyrchwyr i wneud eu prosesau'n fwy effeithlon o ran ynni, gan leihau eu costau ynni a'u hallyriadau nwyon tŷ gwydr wrth wella proffidioldeb.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Manufacturing Energy Toolkit - HVMC (catapult.org.uk)

Cewch fwy o wybodaeth am yr ystod o gymorth a all fod ar gael i helpu busnesau i leihau costau a gwella cynaliadwyedd ar wefan Busnes Cymru Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.