BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn cymorth newydd i helpu cyflogwyr i annog eu staff i gael brechlyn COVID-19

Mae pecyn cymorth newydd wedi lansio i gefnogi busnesau a sefydliadau wrth iddyn nhw helpu eu gweithwyr i gael y brechlyn COVID-19. Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu.

Bydd yn eu hannog i wneud y canlynol:

  • Bod mor hyblyg â phosibl pan fydd yn amser i staff gael brechlyn, a allai gynnwys rhoi amser o’r gwaith gyda thâl i weithwyr fynd i’w hapwyntiadau ar gyfer y ddau ddos o’r brechlyn.
  • Defnyddio adnoddau’r ymgyrch a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth yn eu sefydliad a rhoi mynediad i weithwyr at wybodaeth ddibynadwy a chywir am y brechlyn.
  • Rhannu’r ddogfen Holi ac Ateb a’r fideos cyngor arbenigol i egluro’r brechlyn ac ateb cwestiynau cyffredin sydd gan weithwyr.
  • Annog staff i fod yn wyliadwrus o gamwybodaeth, a’u hannog i ddefnyddio ffynonellau dibynadwy fel icc.gig.cymru os ydynt yn chwilio am wybodaeth neu atebion i gwestiynau am y brechlyn.
  • Creu hyrwyddwyr brechu ar gyfer gweithwyr drwy annog staff i drafod eu profiadau a rhannu gwybodaeth â chydweithwyr, teulu a ffrindiau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.