BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn Cymorth Siarad am Straen i’r sector adeiladu

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyda chymorth rhanddeiliaid y diwydiant wedi cydweithio i gyhoeddi Pecyn Cymorth Siarad am Straen cysylltiedig â Gwaith ar gyfer y sector adeiladu.

Mae dechrau’r sgwrs yn gam cyntaf pwysig i atal straen cysylltiedig â gwaith, a bydd y pecyn cymorth yn helpu i wneud hynny.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i baratoi’n bennaf ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd ganddynt weithlu rheolaidd (cyflogedig a chontract) ac sy’n awyddus i fynd i’r afael â’r mater hwn yn rhagweithiol. Fodd bynnag, mae’n adnodd hyblyg y gellir ei ddefnyddio ar draws y diwydiant cyfan.

Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Siarad am Straen (PDF) a dysgu mwy am straen cysylltiedig â gwaith ar wefan yr HSE.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.