BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecyn £45 miliwn i hyfforddi staff a helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i dyfu

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, becyn £45 miliwn o gyllid a fydd yn helpu busnesau bach ledled Cymru i dyfu a chefnogi miloedd o bobl i hyfforddi i weithio mewn sectorau allweddol.

Fel rhan o'r pecyn, bydd £35 miliwn yn helpu busnesau bach a chanolig (BBaCh) yng Nghymru i ail-ddechrau, datblygu, datgarboneiddio a thyfu i helpu i sbarduno adferiad economaidd Cymru. Yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, mae'n rhoi cyfle i roi hwb i'r economi a'i datblygu yn dilyn effaith y Coronafeirws ac ymadawiad y DU â'r UE.

Gwahoddir busnesau i nodi ffyrdd y bydd buddsoddiad yn eu helpu i ail-lansio eu busnes, ei ddatblygu mewn ffyrdd newydd arloesol, a chreu swyddi newydd.

Mewn menter ar y cyd rhwng Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles, mae £10 miliwn ychwanegol ar gael i roi hwb i Gyfrifon Dysgu Personol poblogaidd Cymru. Bydd hyn yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol a fydd yn helpu 2,000 o bobl i fanteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd ar gyfer swyddi ac ennill cyflog mewn sectorau â blaenoriaeth sy'n wynebu prinder llafur. 

Bydd cyllid yn cael ei dargedu'n benodol at ail-gysylltu gyda ac ail-hyfforddi staff i ddychwelyd i'r gwaith yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol, hyfforddi mwy o yrwyr lorïau HGV, ailsgilio unigolion i ymateb i gyfleoedd gwaith newydd cyffrous mewn adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy, a sicrhau bod mwy o gogyddion, staff aros a staff blaen tŷ hyfforddedig i weithio yn sector lletygarwch ffyniannus Cymru.

Dywed gweinidogion y bydd y pecyn sylweddol yn helpu i gefnogi economi Cymru drwy fisoedd y gaeaf.

Bydd disgwyl i fusnesau gyfateb i unrhyw grantiau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y £35 miliwn o gyllid i BBaCh yn rhoi hwb pellach i grantiau cymorth busnes presennol awdurdodau lleol a bydd pob awdurdod lleol yn diffinio'r amserlen i'w cynllun agor gan ddechrau o fis Tachwedd hyd at fis Ionawr 2022. Bydd angen gwneud ceisiadau'n uniongyrchol i awdurdodau lleol unwaith y bydd eu cynlluniau grant unigol ar agor.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.