BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pecynnau Cymorth i Siarad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi ehangu ei gyfres o becynnau cymorth i siarad i gynnwys fersiynau penodol ar gyfer y GIG a’r sector gofal cymdeithasol.

Mae yna becynnau cymorth gwahanol i Gymru, sy’n cynnwys fersiwn Gymraeg, ac ar gyfer Lloegr a’r Alban. Fe’u datblygwyd gyda chymorth y sector.

Mae pob pecyn cymorth yn gyfrwng i helpu rheolwyr ac eraill i gychwyn sgwrs a allai fod yn anodd gyda’u gweithwyr er mwyn cychwyn y broses ar gyfer atal a rheoli straen cysylltiedig â gwaith.

Mae’r pecynnau cymorth wedi’u bwriadu ar gyfer busnesau bach a chanolig, ond gallant helpu sefydliadau mwy hefyd.

Os ydych chi’n gweithio yn y GIG neu’r sector gofal iechyd a bod gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella’r pecynnau cymorth cysylltwch â’r HSE.



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.