BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Peidiwch â cholli'r cyfle i gael help gyda hanfodion ysgol

Llanelli School image

Gall plant teuluoedd ar incwm is sy'n derbyn budd-daliadau penodol, y rhai sy'n ceisio lloches a phlant mewn gofal hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol.

Oherwydd y gost ychwanegol y gallai teuluoedd ei hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion sy'n mynd i flwyddyn 7. Gallai hefyd olygu cyllid ychwanegol i'ch ysgol.

Nid yw'n rhy hwyr i wirio cymhwystra a gwneud cais am gyllid ar gyfer eleni cyn i'r cyfnod ymgeisio ddod i ben ar 31 Mai 2024.

Gallwch wneud cais bob blwyddyn ar gyfer pob un o'ch plant. Mae disgyblion o bob math o leoliadau addysg yn gymwys cyn belled â'u bod rhwng 5 ac 16 oed. Mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion ym mhob ysgol a lleoliad, gan gynnwys ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Gallwch ddefnyddio'r grant i dalu am y canlynol:

  • gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol, fel dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fel pennau ysgrifennu, pensiliau a bagiau

Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim, mae dal angen i chi wirio os ydych yn gymwys i gael y Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol. Am fwy o wybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgolion ac i wirio os ydych yn gymwys, ewch i Hawliwch help gyda chostau ysgol | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.