BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Peidiwch ag anghofio adnewyddu eich Credydau Treth

Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chymorth ariannol targedig, felly mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gweithredu nawr i adnewyddu cyn y dyddiad cau sy'n agosáu'n gyflym, sef 31 Gorffennaf, er mwyn sicrhau nad yw eu taliadau'n dod i ben.

Mae CThEM yn annog mwy o gwsmeriaid i ddefnyddio ap CThEM gan ei fod yn ffordd gyflym a hawdd o gyflawni'r gwaith hanfodol hwn. 

Mae'n rhad ac am ddim ac yn syml i'w ddefnyddio ac mae'n caniatáu mynediad uniongyrchol i gredydau treth trwy bwyso botwm. Mae llawer o fanteision i'r ap cwbl ddiogel, y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw ffôn clyfar neu lechen, ar unrhyw adeg, gan ddileu'r angen i ffonio CThEM a helpu cwsmeriaid i arbed amser ac arian.

Gall cwsmeriaid sy'n defnyddio ap CThEM:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • gwneud newidiadau i'w cais
  • gwirio eu hamserlen taliadau credydau treth, a
  • darganfod faint maen nhw wedi'i ennill am y flwyddyn

Mae CThEM wedi rhyddhau fideo i esbonio sut gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEM i weld, rheoli a diweddaru eu manylion.

Gall cwsmeriaid hefyd adnewyddu ei credydau treth a rheoli eu hawliadau  ar-lein ar GOV.UK. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu hadnewyddiad, cael eu sicrhau ei fod yn cael ei brosesu a gwybod pryd y byddant yn clywed yn ôl gan CThEM.

Mwy o wybodaeth

Darganfyddwch fwy am adnewyddu hawliadau credydau treth.

Gall cwsmeriaid lawrlwytho ap CThEM am ddim o siop apiau ffôn clyfar.

Darganfyddwch fwy am Credydau Cynhwysol yn disodli credydau treth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.