Mae gan gyflogwyr, pobl hunangyflogedig a phobl sy’n rheoli eu heiddo eu hunain, fel landlordiaid, ddyletswydd i nodi a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â chlefyd y lleng filwyr.
Os yw’ch adeilad wedi cau neu os oes llai yn ei ddefnyddio yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19), gall eich system ddŵr ddioddef yn sgil aros yn llonydd am nad yw’n cael ei defnyddio cymaint, gan gynyddu’r perygl o glefyd y lleng filwyr.
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth am sut i reoli’r risg o glefyd y lleng filwyr er mwyn diogelu pobl pan fyddan nhw’n dechrau ailddefnyddio’r system ddŵr eto.