BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pob adeilad preswyl tal yng Nghymru ar ei ffordd i gael ei gyweirio

building safety inspection

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gadarnhau llwybr i adfer a chyweirio'r holl adeiladau preswyl tal sydd â phroblemau diogelwch tân.

Mae'r ymrwymiad yn cynnwys pob adeilad preswyl 11 metr neu fwy o uchder ac nid dim ond adeiladau sydd wedi'u cladio.

Mae diwygio'r rheolau diogelwch adeiladau yn rhan allweddol o Gytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru a chyflwynwyd diweddariad pwysig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023).

Daw'r ymrwymiad wrth ochr cadarnhad y bydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer prisio gwaith cladio fydd yn cynnwys Cymru.

Mae deg o brif ddatblygwyr y DU eisoes wedi arwyddo contract Llywodraeth Cymru ac mae gwaith cyweirio mawr eisoes ar y gweill ar safleoedd gan gynnwys Aurora, Davids Wharf, Prospect Place a Century Wharf.

Amcangyfrifir y bydd gwaith yn dechrau ar 34 adeilad arall yn 2024.

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn parhau i gefnogi datblygwyr a Chynllun Adeiladau Amddifad Llywodraeth Cymru.

Adeiladau amddifad yw'r term am adeiladau preifat lle nad oes datblygwr hysbys neu os yw'r datblygwr wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi grwp gychwynnol o 31 o adeiladau ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar safleoedd allweddol gan gynnwys yn Kings Court yng Nghasnewydd.

Cadarnhawyd hefyd y byddai gwaith yn cael ei wneud ar brosiectau sector cymdeithasol ychwanegol, gyda dyrannu £39m arall. Bydd cyfanswm o 131 o adeiladau sector cymdeithasol yn elwa o'r gronfa hon.

O fis Ebrill 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn cyfyngu'r gwaith o oruchwylio adeiladau risg uchel newydd i'r corff Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol, gan gyflwyno system ddosbarthu newydd ar gyfer archwilwyr adeiladau cofrestredig.

Gwneir hyn er mwyn sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad perthnasol angenrheidiol sy'n cael cynghori'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau.

Roedd newyddion da hefyd i lesddeiliaid sy'n wynebu costau cyfreithiol ac i'r corff Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol. Dywedodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyngor cyfreithiol annibynnol ar gael i lesddeiliaid ac y byddai rhagor o fanylion yn dilyn yn y flwyddyn newydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Pob adeilad preswyl tal yng Nghymru ar ei ffordd i gael ei gyweirio | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.