BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pont Menai yn ailagor dros y gaeaf ar ôl i'r gwaith i osod crogrodenni newydd gael ei gwblhau yn unol â'r amserlen

Menai Bridge

Ar ôl i bob un o'r 168 o grogrodenni ar y bont gael eu newid, cadarnhawyd y bydd cam cyntaf y rhaglen yn cael ei gwblhau yn unol â'r amserlen. Bydd y bont yn ailagor ar Dydd Sadwrn, 2 Tachwedd 2024 [00:01hrs].

Bydd oedi o bedwar mis (rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Chwefror 2025) cyn dechrau ar ail gam y gwaith, sydd, ymhlith pethau eraill, yn cynnwys ailbeintio'r bont,  er mwyn caniatáu i'r bont ailagor yn llawn a dileu'r terfyn pwysau o 7.5 tunnell dros gyfnod y gaeaf. Ni fydd hynny'n effeithio ar yr amserlen ar gyfer pen-blwydd y bont yn 200 oed ym mis Ionawr 2026.

Bydd hynny'n esgor ar nifer o nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • Bydd y gwaith ar yr ail gam yn mynd rhagddo'n fwy hwylus ac yn fwy effeithlon, oherwydd y bydd y tywydd yn well.
  • Bydd llwybr teithio arall ar gael os bydd tywydd garw (gwyntoedd cryfion), digwyddiadau ac argyfyngau yn effeithio ar Bont Britannia (yr A55). Bydd yn golygu hefyd y bydd cerbydau nwyddau trwm a cherbydau eraill yn cael croesi Afon Menai unwaith eto oherwydd y bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn cael ei ddileu dros dro.
  • Bydd yn gwella cyfleoedd i fusnesau lleol, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.
  • Bydd Porthladd Caergybi yn parhau'n weithredol am gyfnod hirach.
  • Bydd yn galluogi Hanner Marathon Môn, 'Always Aim High', i ddefnyddio Pont Menai ar gyfer y digwyddiad, gan ddenu cyfleoedd busnes newydd i'r gymuned leol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Pont Menai yn ailagor dros y gaeaf ar ôl i'r gwaith i osod crogrodenni newydd gael ei gwblhau yn unol â'r amserlen | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.