Bydd Pont Menai yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol o ddydd Gwener 21 Hydref 2022 yn dilyn argymhellion diogelwch gan beirianwyr strwythurol.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn dilyn profion diweddar ar hangeri presennol y bont. Mae peirianwyr strwythurol wedi cadarnhau y dylai Pont Menai gau i unrhyw draffig, gan gynnwys cerddwyr a beicwyr, er mwyn caniatáu i waith cynnal a chadw hanfodol gael ei wneud.
Bydd hyn yn digwydd o 14:00 ddydd Gwener 21 Hydref 2022.
Yn y cyfamser, bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio at Bont Britannia.
Mae cynlluniau wedi’u trafod gyda phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, UK Highways A55, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, y Gwasanaethau Brys a'r awdurdodau lleol.
Bydd Traffig Cymru yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar Twitter Traffic Wales North & Mid (@TrafficWalesN) / Twitter ac ar eu gwefan Traffig Cymru | Traffig Cymru.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Pont Menai yn cau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol | LLYW.CYMRU