BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pontio tuag at Gerbydau Dim Allyriadau erbyn 2030 – digwyddiad ar-lein

Mae Llywodraeth y DU yn rhoi’r gorau’n raddol i werthu ceir a faniau petrol a diesel newydd erbyn 2030, a bydd pob car a fan newydd yn rhai dim allyriadau o’r bibell fwg erbyn 2035.

Ymunwch â ni ar-lein lle bydd Innovate UK yn rhoi’r diweddaraf ar raglen ymchwil a datblygu cerbydau dim allyriadau Llywodraeth y DU, ac yn sôn am gyfleoedd cyllido posibl yn y dyfodol. Mae meysydd perthnasol yn cynnwys datblygu technolegau cerbydau dim allyriadau a chefnogi’r seilwaith gwefru sy’n ofynnol i alluogi’r pontio i gerbydau dim allyriadau.

Bydd y digwyddiad o fudd i fusnesau o bob maint (micro, BBaCh a mawr) a bydd yn cael ei gynnal ar 12 Mawrth 2021 rhwng 10am a 12:30pm.

Am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle, ewch i wefan 

KTN 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.