BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pontio’r DU: canllawiau newydd ar gyfer busnesau sy’n symud nwyddau

 

Cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau

Os ydych chi’n gludwr ac yn symud nwyddau drwy borthladd yn y DU sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth i gael nwyddau drwy’r tollau. A, ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Edrychwch sut i symud nwyddau drwy borthladdoedd sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau

Os ydych chi’n fasnachwr, yn gludwr neu’n gariwr ac yn defnyddio porthladd yn y DU sy’n defnyddio’r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau, edrychwch i weld beth sydd angen i chi ei wneud i gael y nwyddau drwy’r tollau. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Sut bydd TAW yn gymwys i nwyddau sy’n cael eu symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi gyda gwybodaeth am sut bydd TAW mewnforio yn gymwys i nwyddau sy’n cael eu symud rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer unigolion a busnesau nad ydynt wedi’u cofrestru ar gyfer TAW. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor a chanllawiau pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.