Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn parhau i helpu sefydliadau a busnesau i baratoi ar gyfer pob sefyllfa a bydd yn datblygu adnoddau ar gyfer cymorth pellach.
Cadwch lygaid ar dudalen ‘What’s New’ yr ICO i gael y canllawiau diwygiedig a’r adnoddau diweddaraf wrth i 1 Ionawr 2021 agosáu. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ICO.
Darllenwch Gwestiynau Cyffredin yr ICO am atebion i gwestiynau ar ddiogelu data ar ddiwedd y pontio, ac ewch i wefan ICO am ragor o wybodaeth.
Ddydd Iau 3 Rhagfyr 2020, cynhaliodd yr ICO weminar ar gyfer sefydliadau bach a chanolig. Trafododd aelodau gwasanaeth cwsmeriaid yr ICO y gofynion diogelu data allweddol i’w hystyried ar ddiwedd y cyfnod pontio ar gyfer gadael yr UE.
Roedd y ffocws ar rôl yr ICO, sut gall data barhau i lifo i mewn ac allan o’r DU, ac effeithiau dyfarniad Schrems II a gofynion cynrychiolwyr UE. Gwyliwch recordiad o’r gweminar ar YouTube.