Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau 2025 drwy ddyfarnu hyd at £10 miliwn o gyllid grant i 32 o brosiectau ynni gwyrdd cymunedol ym mhob cwr o Gymru.
Dewiswyd y prosiectau llwyddiannus ar ôl proses ymgeisio gystadleuol iawn, a byddant yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf. Mae'r prosiectau'n cynnwys popeth o baneli solar a phympiau gwres i fatris storio ynni a mannau gwefru cerbydau trydan. Byddant o gymorth i wella'r defnydd o ynni ar draws ystod eang o sefydliadau, gan gynnwys:
- ysgolion
- canolfannau hamdden
- cartrefi gofal
- parciau busnes
- canolfannau cymunedol
- chanolfannau gweithgareddau
Mae'r cyllid hwn yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru yn ei rhaglen Ynni Cymru, a sefydlwyd er mwyn cefnogi a gwireddu'r manteision enfawr sy'n deillio o seilwaith cynhyrchu ynni sydd mewn perchnogaeth leol a Systemau Ynni Clyfar Lleol.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Prosiectau ynni lleol mwy clyfar a gwyrdd yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, byddwch yn cael mynediad at becyn offer marchnata wedi’i ddylunio’n benodol i gynnig gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu eich busnes i hyrwyddo’r camau rydych wedi’u cymryd i ddatgarboneiddio a dod yn fwy cynaliadwy: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru