BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Prysuro tuag at Sero Net 2024: Digwyddiad y DU ac Ewrop

laptop user with green graph and net zero symbols

Mae mentrau newydd fel y Gyfarwyddeb Adrodd ar Gynaliadwyedd Corfforaethol (CSRD), a Thasglu Cynllun Pontio’r DU (TPT), yn gwneud gweithredu ac adrodd ar yr hinsawdd yn ffocws cynyddol i fusnesau ar draws Ewrop. Er mwyn gwireddu eu nodau hinsawdd, rhaid i sefydliadau greu cynllun cadarn i drosglwyddo i Sero Net a symud eu modelau busnes yn gyflym ac ar raddfa uchel.

Mae cyfres digwyddiadau ‘Prysuro tuag at Sero Net’ yr Ymddiriedolaeth Garbon yn ymchwilio i’r gwahanol elfennau o gynllunio’r trawsnewid hwn. O osod targedau a’u gweithredu, dyma gyfle i glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr ym maes hinsawdd ac arbenigwyr yr Ymddiriedolaeth Garbon ledled Ewrop wrth iddynt rannu sut y maent yn goresgyn y rhwystrau wrth iddynt drawsnewid i Sero Net.

Bydd y camau ar-lein yn cael eu rhannu fel a ganlyn ͏- y Gadwyn gyflenwi bwyd a diod, Gweithgynhyrchu (Dillad, Harddwch, Fferyllol) ac Isadeiledd (TGCh, Ynni, Adeiladu).

Cynhelir y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim ar 22 Mai 2024.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle: Accelerate to Net Zero 2024: UK & Europe Tickets, Wed 22 May 2024 at 09:30 | Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.