BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£1 filiwn ar gael i gynorthwyo diwydiant pysgota Cymru

Mae cymuned bysgota Cymru yn cael ei gwahodd i gyflwyno ceisiadau i gronfa gwerth £1 filiwn a fwriedir yn bennaf i helpu i liniaru'r effaith y mae Covid yn parhau i’w chael ar y diwydiant, a’i helpu i addasu yn wyneb y newidiadau i amodau'r farchnad ar gyfer cynhyrchion bwyd môr.

Mae Cronfa Pysgodfeydd Morol Ewrop (EMFF) yn cael ei hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd ac mae wedi cefnogi llawer o brosiectau yng Nghymru ers iddi gael ei chyflwyno yn 2014.
Bydd y cyllid yn helpu pobl i fuddsoddi yn y fflyd arfordirol ar raddfa fach ac mewn dyframaethu, ynghyd â gwelliannau i’r ffordd y mae cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu yn cael eu marchnata a’u prosesu. Fodd bynnag, bydd yn rhaid cwblhau unrhyw brosiect a ddewisir ac a gefnogir o dan y rhaglen o fewn cyfnod o 12 mis a fydd yn dechrau o fis Gorffennaf eleni.

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer yr EMFF ar  agor. Mae canllawiau ar gael i'r rheini sydd â diddordeb mewn gwneud cais. a dylid anfon Ffurflen Amlinellu Prosiect at Daliadau Gwledig Cymru cyn gynted â phosibl. Yna bydd ffurflen gais lawn yn cael ei hanfon atoch a bydd angen ichi ei llenwi a'i hanfon yn ôl erbyn y dyddiad cau ar 25 Mawrth 2022.

Mae manylion y rhaglen EMFF a chanllawiau'r cynllun i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.  

Am unrhyw gymorth a chefnogaeth ychwanegol, dylai ymgeiswyr gysylltu â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.