BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£140 miliwn i helpu busnesau Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £140 miliwn o arian ychwanegol i helpu busnesau i ddelio â’r heriau economaidd sydd wedi dod yn sgil Covid-19 ac a ddaw pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Bydd trydydd cymal Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) Llywodraeth Cymru yn neilltuo mwy o arian i ddiogelu swyddi a helpu busnesau i ddatblygu yn ogystal â rhoi help ychwanegol i fusnesau sy’n dod o dan y cyfyngiadau lleol.

Trwy gymal newydd yr ERF, caiff £80 miliwn ei neilltuo i helpu busnesau i gynnal prosiectau i’w helpu i addasu i economi’r dyfodol. Bydd gofyn i’r cwmnïau gyd-fuddsoddi a pharatoi cynllun clir ar sut i addasu i economi mewn byd ar ôl covid.

O hwn, bydd £20 miliwn wedi’i glustnodi i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch sy’n wynebu anawsterau difrifol wrth inni gamu tua’r gaeaf.

Yn y cyfamser, caiff £60 miliwn ei neilltuo i helpu busnesau y bydd y cyfyngiadau clo lleol yn effeithio arnyn nhw.

Gallai cwmnïau a dderbyniodd grantiau yng ngham un a dau’r ERF, neu gymorth gyda’u hardrethi annomestig, fod yn gymwys am arian cam tri’r ERF hefyd.

Bydd y Gwiriwr Cymhwysedd sy’n dangos i gwmnïau a ydyn nhw’n gymwys am arian trydydd cam yr ERF yn gweithio yn ystod yr wythnos sy’n cychwyn 5 Hydref 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i'r wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.