BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£15.4 miliwn i helpu i gefnogi sectorau Celfyddydau a Diwylliant Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £15.4 miliwn ar gael i gefnogi'r sectorau celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru yn ystod pandemig parhaus Covid-19.

Mae'r cymorth ychwanegol, fel rhan o drydedd rownd y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ar gael i'r sectorau diwylliannol yng Nghymru wrth iddo barhau i gael ei effeithio gan bandemig Covid.
Bydd y gronfa yn cefnogi sefydliadau yr effeithir arnynt gan y mesurau lefel rhybudd 2 diweddar y mae Gweinidogion wedi'u rhoi ar waith i gadw Cymru'n ddiogel, ac yn helpu i reoli lledaeniad cyflym yr amrywiolyn Omicron newydd.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn lansio ei broses ymgeisio ar gyfer sefydliadau o fewn y sector celfyddydau heddiw (12 Ionawr). Mae'r gronfa sefydlogrwydd y gaeaf a gyhoeddwyd yn flaenorol bellach wedi'i chyfuno â thrydedd rownd Cronfa Adfer y Gaeaf er mwyn sicrhau aliniad â'r cymorth ariannol sydd ar gael.

Cysylltir â sectorau eraill yr effeithiwyd arnynt gan gynnwys lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, lleoliadau digwyddiadau a threfnwyr, amgueddfeydd lleol annibynnol, llyfrgelloedd cymunedol ac annibynnol, orielau a sinemâu annibynnol a gefnogwyd yn flaenorol drwy y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru drwy lythyr yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr 2022.  Bydd y llythyr yn  nodi sut y gallant gael gafael ar gymorth ariannol.

Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.