BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£400,000 i helpu’r diwydiant pysgota yng Nghymru

Bydd pysgotwyr a pherchenogion cychod yng Nghymru’n gallu gwneud cais i gronfa gwerth £400,000 o 3 Ebrill i’w helpu i addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad ar gyfer cynnyrch bwyd môr, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Daw’r cymorth hwn oddi wrth Gronfa Pysgodfeydd Môr Ewrop (EMFF) ac mae’n cael ei gydariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Bydd Cynllun Costau Safonol yr EMFF yn cynnig rhestr o offer y caiff pysgotwyr a pherchenogion cychod eu prynu am gost safonol er mwyn ychwanegu at werth eu dalfeydd a gwneud eu busnesau’n fwy cynaliadwy.

Mae’r rhestr offer yn cynnwys eitemau fel biniau iâ, tanciau pysgod cregyn a chloriannau ar y cwch ac ar y lan.

Bydd grant gwerth hyd at 80% o gost yr offer cyfalaf ar gael i ymgeiswyr. Y grant mwyaf y gall unrhyw ymgeisydd ei gael yw £30,000. 

Mae’r cyfnod ymgeisio’n agor ar 3 Ebrill 2023 ac yn cau ar 12 Mai 2023.

I wneud cais am yr arian, rhaid i ymgeiswyr gofrestru gyda Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.

Bydd manylion y cynllun ar gael i chi eu darllen cyn y dyddiad hwnnw ar Cymorth ar gyfer gwerth ychwanegol, ansawdd cynnyrch a defnydd o ddaliadau diangen: canllawiau ceisiadau cost safonol | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.