BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£4.85m ar gyfer Bwyd a Hwyl yr haf hwn

Bydd gwledd o sesiynau yn darparu prydau bwyd iach a gweithgareddau addysgol i blant a phobl ifanc ar gael eto'r haf hwn drwy'r rhaglen Bwyd a Hwyl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £4.85 miliwn ar gyfer darparu Bwyd a Hwyl, a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) mewn ysgolion yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r sesiynau yn cynnig brecwast a chinio iach i blant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithgareddau ymarfer corff a sesiynau cyfoethogi, a gwybodaeth am fwyd a maeth.

Nod y cynllun yw rhoi cymorth i blant a phobl ifanc o ardaloedd difreintiedig. Disgwylir y bydd y cyllid yn darparu tua 8,000 o leoedd eleni ar draws 200 o garfannau. Mae hefyd ddarpariaeth ar gyfer cymorth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol fel rhan o'r cynllun, gan gynnwys cymorth 1:1.

Mae gwaith gwerthuso a gynhaliwyd ar y cynllun mewn blynyddoedd blaenorol wedi dangos bod y sesiynau hyn wedi helpu i ennyn diddordeb plant a phobl ifanc yn yr ysgol, ac wedi gwella llesiant cyffredinol y plant a’r bobl ifanc hynny sy'n dod iddynt.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i £4.85m ar gyfer Bwyd a Hwyl yr haf hwn | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.