Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o hanner miliwn o bunnoedd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, er mwyn gwneud yr eisteddfodau eleni yn hygyrch i deuluoedd incwm is.
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £350,000 i’r Eisteddfod Genedlaethol a £150,000 i’r Urdd fel cyllid untro er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is i fynychu’r gwyliau cenedlaethol yn Rhondda Cynon Taf a Maldwyn yr haf yma.
Mae hyn yn golygu y bydd tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd ar gael i hyd at 18,400 o drigolion lleol cymwys i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhonytpridd ym mis Awst.
Yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gweinyddu’r cyllid a gwerthiant tocynnau: Diolch i Lywodraeth Cymru am gefnogi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf | Eisteddfod
Bydd yr Urdd yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer tocynnau mynediad ar y 18fed o Fawrth, ar ôl cynnal pob Eisteddfod Cylch a Rhanbarth: Tocynnau Incwm Isel | Urdd Gobaith Cymru
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: £500,000 i helpu teuluoedd incwm is i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd | LLYW.CYMRU