Mae dros hanner cant o brosiectau wedi cael £5.9 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn offer a fydd yn helpu i ddatblygu a gwreiddio cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd.
Rhoddwyd grantiau gan Gronfa Offer Cyfalaf SMART a'r Gronfa Economi Gylchol ar gyfer Busnes i gefnogi sefydliadau i fuddsoddi mewn arloesi gyda'r nod o wella bywydau pobl, tyfu'r economi a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Gwahoddwyd busnesau o unrhyw faint, sefydliadau ymchwil, sefydliadau academaidd, gan gynnwys colegau addysg bellach, a sefydliadau'r trydydd sector i wneud cais am yr arian.
Mae’r buddsoddiad wedi'u targedu at weithgareddau a fydd yn helpu i gyflawni'r cenadaethau a nodir yn strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi ac mae cymorth wedi'i gynnig i brosiectau ledled Cymru sy'n cwmpasu pob rhan o'r economi.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: £5.9 miliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sy'n buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi | LLYW.CYMRU