BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

£9.5m ar gyfer Canolfan Arloesi newydd i gefnogi Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiberddiogelwch

Heddiw (10 May 2022) cyhoeddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y bydd Canolfan Arloesi Seiber newydd i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang yn y sector yn weithredol yn hwyrach eleni, diolch i fuddsoddiad o £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad o £3 miliwn yn y Ganolfan newydd dros ddwy flynedd, gyda £3 miliwn o gyllid ar y cyd gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd a £3.5 miliwn o arian cyfatebol o fath arall gan bartneriaid y consortiwm. 

Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad yn ystod diwrnod cyntaf Cynhadledd Seiberddiogelwch fawr - CYBERUK 2022. Mae'r gynhadledd, sy'n cael ei rhedeg gan y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol - rhan o GCHQ, yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd yr wythnos hon.

Mae'r Ganolfan Arloesi Seiber newydd yn cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd gyda phartneriaid yn cynnwys Airbus, Alacrity Cyber, CGI, Thales NDEC, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru.

Y gobaith yw y bydd y Ganolfan Arloesi newydd yn hyfforddi mwy na 1,000 o unigolion seibr-fedrus ac yn datblygu'r sector seibr-ddiogelwch yng Nghymru fwy na 50% erbyn 2030.

Mae 51 o fusnesau sy'n gysylltiedig â seiber wedi'u lleoli yng Nghymru, sy'n cyflogi 4% o weithwyr proffesiynol seiberddiogelwch y DU.

Erbyn 2030, nod y Ganolfan yw: 

  • Datblygu'r sector seiberddiogelwch yng Nghymru fwy na 50% o ran nifer y busnesau
  • Denu mwy nag £20 miliwn mewn buddsoddiad ecwiti preifat i ddatblygu tua 50% o'r busnesau hyn
  • Wedi hyfforddi mwy na 1,000 o unigolion seiber-fedrus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i £9.5m ar gyfer Canolfan Arloesi newydd i gefnogi Cymru i ddod yn arweinydd byd-eang ym maes Seiberddiogelwch | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.