Daw rheolau treth lleol newydd i rym heddiw a fydd yn rhoi gwell cefnogaeth i gymunedau Cymru fynd i’r afael â’r lefelau uchel o ail gartrefi ac eiddo gwag.
Mae’n nodi carreg filltir arall yn y gwaith o weithredu cyfres o fesurau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o ymrwymiad Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwag ar gymunedau ar hyd a lled y wlad.
Mae’r rheolau wedi dod i rym yn dilyn ymgynghoriadau yn genedlaethol ac yn lleol, sy’n golygu y gall awdurdodau lleol nawr roi eu hysgogwyr cryfach ar waith.
Mae’r mesurau’n rhan o ymdrechion i sicrhau y caiff bawb gyfle i fyw yn eu cymuned leol, ac i geisio gwella argaeledd a fforddiadwyedd tai rhent a thai i’w prynu ar gyfer y rhai ar lefelau incwm lleol.
Mae gan awdurdodau lleol yr hawl bellach i osod a chasglu premiymau’r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300% – i fyny o 100% – a gall cynghorau benderfynu ar lefelau yn seiliedig ar eu hanghenion lleol.
Mae pum cyngor wedi cynyddu’r premiwm y maent yn ei godi ar ail gartrefi yn 2023-24, gyda saith arall yn bwriadu cyflwyno premiwm o fis Ebrill 2024.
Mae tri chyngor wedi cynyddu’r premiwm ar eiddo gwag hirdymor yn 2023-24, gyda phedwar arall yn cyflwyno premiwm am y tro cyntaf, a dau arall yn bwriadu cyflwyno premiwm ym mis Ebrill 2024.
Mae’r meini prawf ar gyfer gwneud lletyau gwyliau yn atebol i dalu ardrethi annomestig yn lle’r dreth gyngor hefyd wedi’u cryfhau, gyda’r bwriad o ddangos yn gliriach bod eiddo’n cael eu gosod yn rheolaidd fel rhan o fusnes lletyau gwyliau gwirioneddol sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol.
I gyd-fynd â’r newid hwn, cyflwynwyd canllawiau statudol diwygiedig i awdurdodau lleol, a chyflawnwyd yr ymrwymiad i gyflwyno eithriadau pellach i’r rheoliadau yn y Senedd.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Pwerau newydd yn dod i rym i awdurdodau lleol fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwag | LLYW.CYMRU