Bydd Pythefnos Masnach Deg 2021 rhwng 22 Chwefror a 7 Mawrth. Thema eleni yw Cyfiawnder yr Hinsawdd.
Bob blwyddyn, mae’r Bythefnos Masnach Deg yn rhoi cyfle i bobl ar draws y DU i ddathlu llwyddiannau Masnach Deg, a dysgu mwy am y gwahaniaeth mae Masnach Deg yn ei wneud.
Gyda’r pandemig COVID byd-eang sydd wedi ymddangos, mae’r heriau y mae ffermwyr yn eu hwynebu bellach yn fwy nag erioed gyda phrisiau is ac ergydau ar hyd ein cadwyni cyflenwi byd-eang. Mae tlodi parhaus mewn cymunedau ffermio’n ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i ni ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cymru Masnach Deg.