BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Pythefnos Masnach Deg 2024

Coffee beans in the shape of a heart

Ffermio yw’r cyflogwr mwyaf yn y byd ond nid yw miliynau o bobl sy’n byw ac yn gweithio ar ffermydd tyddynwyr yn ennill digon i ddarparu ar eu cyfer hwy eu hunain na’u teuluoedd. Yn aml, y cymunedau hyn y mae newid hinsawdd yn effeithio fwyaf arnynt, er mai nhw sydd wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu ato.

Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy'n rhoi pobl a'r blaned cyn elw. Pan fydd cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu nwyddau, mae'n arwain at amgylchedd gwaith gwell ac ansawdd bywyd gwell iddyn nhw a'u teuluoedd.

Mae Masnach Deg yn defnyddio dull cyfannol, gan gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr trwy wneud cadwyni cyflenwi yn fwy tryloyw a darparu gwell dewisiadau ar gyfer siopa'n gyfrifol. 

Cynhelir Pythefnos Masnach Deg rhwng dydd Llun 9 Medi a dydd Sul 22 Medi 2024. Mae ymgyrch eleni yn annog pawb i ‘Be The Change’, drwy ddewis nwyddau Masnach Deg a siarad o blaid masnach decach. 

Mynnwch gip ar becyn ymgyrchu digidol Fairtrade Fortnight 2024 am adnoddau i'ch cefnogi i gymryd rhan.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.