Mae’r ffenestr ymgeisio am Raglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) 2024-25 ar agor yn awr.
Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, bydd y rhaglen yn darparu cwrs llawn mynd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth a chyfarwyddyd dros dair sesiwn breswyl ddwys, yn dilyn y diwrnod dewis ymgeiswyr ym mis Ebrill 2024.
Mae cymryd rhan yn y Rhaglen Arweinyddiaeth yn gyfle unwaith mewn oes. Bydd grŵp o hyd at 12 o gynrychiolwyr yn cael y cyfle i wneud cysylltiadau â ffigyrau allweddol yn y diwydiant ac i ddysgu sgiliau arwain a chyfathrebu newydd er mwyn gwella eu dyheadau gyrfa a/neu fusnes.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.
Lawrlwythwch y ffurflen gais yn Gymraeg neu Saesneg. Ar ôl eu cwblhau dylid e-bostio ceisiadau at: alison.harvey@ruraladvisor.co.uk
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ffenestr ymgeisio Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC ar agor yn awr - Royal Welsh Cymru