Oes gennych chi syniad gwych rydych chi eisiau ei droi'n fusnes peirianneg newydd a busnes technoleg newydd?
Mae Regional Talent Engine - Pre-accelerator Programme wedi cael ei chynllunio i roi'r cymorth ymarferol, £20,000 o gyllid a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i helpu i fireinio'ch arloesiad a dod â'ch gweledigaeth yn fyw.
Am y tro cyntaf, mae croeso i ymgeiswyr o Gymru wneud cais gan y bydd hyfforddiant hybrid ar gael yng Nghaerdydd ochr yn ochr â lleoliadau hyfforddi presennol ym Melffast, Leeds, Lerpwl a Newcastle.
Mae'r rhaglen yn chwilio am ddarpar entrepreneuriaid sydd:
- yn beirianwyr profiadol neu'n weithwyr technoleg proffesiynol medrus
- eisiau sefydlu eu busnes eu hunain yng Nghymru, gogledd Lloegr neu ogledd Iwerddon.
Ac mae’n cefnogi:
- arloesiadau newydd o unrhyw faes peirianneg
- syniadau gwreiddiol ar gyfer busnesau a allai ehangu
Y dyddiad cau yw 30 Hydref 2023.
I ddysgu mwy ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol Regional Talent Engines - Pre-Accelerator Programme (raeng.org.uk)