BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

RemakerSpace

Person using a 3d printer

Mae RemakerSpace yn fenter Ysgol Busnes Caerdydd a Sefydliad PARC sy'n ymroddedig i alluogi'r economi gylchol a rhoi terfyn ar darfodiad arfaethedig drwy ymestyn cylch oes cynhyrchion ac yn gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau a darparwyr addysg i yrru'r economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt.

Wedi'i leoli ar Barc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mae RemakerSpace yn cynnal bron i £600,000 o adnoddau a ariannwyd gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru i ymgysylltu, addysgu ac ysbrydoli pawb i greu atebion cylchol sy'n sail i gymdeithas y dyfodol.

Gall RemakerSpace helpu cymunedau i drwsio offer sydd wedi torri gyda'u pecynnau trwsio trydanol, ymestyn oes dillad gyda'n peiriannau gwnïo diwydiannol, defnyddio systemau rhith-realiti i ddelweddu gweithrediadau atgyweirio, neu hyd yn oed argraffu rhannau sbâr gyda'u hystod blaengar o argraffwyr 3D.

Mae RemakerSpace wedi ymrwymo i wthio newidiadau sylfaenol i'r ffordd yr ydym yn dylunio, gwneud, defnyddio a gwaredu nwyddau er mwyn ymestyn cylch oes cynhyrchion.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallant helpu'ch busnes, dewiswch y ddolen ganlynol: RemakerSpace - Prifysgol Caerdydd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.