Mae gen Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.
Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: CRISP23 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein
Datgarboneiddio trafnidiaeth: arddangoswyr
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer gweithio gydag Awdurdodau Lleol i ddatblygu datrysiadau yn seiliedig ar leoedd ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 8 Ionawr 2024.
Growing Kent and Medway: cronfa prototeipio ac arddangos
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £750,000 ar gyfer datblygu ac arddangos technolegau newydd arloesol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer bwyd a diod garddwriaethol. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 24 Ionawr 2024.
Launchpads: rheoli clystyrau
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am hyd at £150,000 ar gyfer prosiect i ddatblygu a rheoli un o’r clystyrau arloesi newydd sy’n cael eu cefnogi gan raglen Innovate UK Launchpads. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Agored – dim dyddiad cau.
Grantiau Innovate UK Smart: hydref 2023
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer gwaith arloesol ac unigryw ym maes ymchwil a datblygu sy’n fasnachol hyfyw, sydd â’r potensial i gael effaith sylweddol ar economi’r DU. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 17 Ionawr 2024.
Partneriaethau Buddsoddi: Busnesau Bach a Chanolig rownd 5
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyllid grant ochr yn ochr â buddsoddiad preifat gan bartneriaid buddsoddi dethol. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 8 Ionawr 2024.
Benthyciadau arloesi ar gyfer economi’r dyfodol: rownd 12
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesi sydd â photensial masnachol cryf i sbarduno gwelliant sylweddol yn economi’r DU. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 10 Ionawr 2024.
Sylfeini Dylunio: atgyweiriadwyedd
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau dylunio systemig sy’n canolbwyntio ar bobl er mwyn llywio a lleihau risg gweithgarwch ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 10 Ionawr 2024.
Dadansoddi ar gyfer Arloeswyr (A4I) rownd 12 – cam 1
Mae busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £2.25 miliwn ar gyfer datrys problemau cynhyrchiant a chystadleurwydd, wrth weithio gyda’r gwyddonwyr a’r cyfleusterau ymchwil blaenaf. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 3 Ionawr 2024.
Generaduron Di-allyriadau (ZE-Gen) Sbarduno cam 1: darganfod
Mae sefydliadau’n gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer cynnal astudiaethau dichonoldeb ar ddatblygu amnewidiadau adnewyddadwy ar gyfer generaduron tanwydd ffosil yn Nigeria neu Ynysoedd y Philipinau. Darganfod rhagor a gwneud cais | ukri.org. Dyddiad cau: 31 Ionawr 2024.