BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhagfyr 2024: Cyfleoedd Ariannu gan Innovate UK

Whiteboard with colourful lightbulbs and people looking at the whiteboard

CAM braenaru un - astudiaethau dichonoldeb

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer astudiaethau dichonoldeb sy'n targedu cyfleoedd symudedd cysylltiedig ac awtomataidd (CAM) masnachol cynnar. Dyddiad cau:15 Ionawr 2025, 11am. Rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

Ymchwil a Datblygiad Cydweithredol Catalydd Creadigol

Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau sy'n datblygu cynhyrchion ac offer arloesol newydd ar gyfer diwydiant creadigol y DU. Mae'r cyllid hwn yn rhan o Gatalydd Creadigol Innovate UK. Dyddiad cau:29 Ionawr 2025 ,11am. Rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

Innovate UK Smart Grants:Tachwedd 2024

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu sy’n chwyldroadol ac sy’n fasnachol hyfyw a allai gael effaith sylweddol ar economi’r DU. Dyddiad cau:22 Ionawr 2025, 11am. Rhagor o wybodaeth ac i wneud cais

Rownd chwech sylfeini dylunio 

Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn ar gyfer prosiectau dylunio systemig sy'n canolbwyntio ar bobl. Mae'r rhain ar draws ystod o themâu a meysydd arloesi i ddylanwadu, llywio a dadrisgio gweithgareddau ymchwil a datblygu. Dyddiad cau:15 Ionawr 2025, 11am. Rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

I ddod o hyd i ragor o gyfleoedd ariannu gan Innovate UK, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyfleoedd – UKRI

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sydd ar gael i fusnesau Cymru i arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael gafael ar y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.