Mae Acorn by Synergie wedi sefydlu’r Rhaglen Ailadeiladu, sef ffordd syml i'ch busnes adeiladu addo i gefnogi pobl sydd ag euogfarnau i mewn i gyflogaeth.
Mewn partneriaeth â'r HMPPS (Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi), mae Acorn Recruitment Ltd yn gweithio gyda phobl sydd ag euogfarnau trwy dri Carchar yng Nghymru a CEF Bryste i gynnig y potensial i'r rheini sy'n agosáu at ddiwedd eu dedfryd sicrhau cyflogaeth ystyrlon yn y diwydiant adeiladu.
Pe byddai eich busnes yn dewis bod yn rhan o'r rhwydwaith hwn, byddai'n cynnwys y buddion hyn:
- Mae'n rhad ac am ddim i ymuno
- Byddai’r busnes yn ymddangos ar dudalen we rhwydwaith bwrpasol sy’n cefnogi pobl sydd ag euogfarnau i mewn i gyflogaeth
- Hyrwyddo eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
- Yn dangos eich bod yn cefnogi gwerth cymdeithasol ar ffurf gwella symudedd cymdeithasol
- Tystiolaeth wych i'w chynnwys mewn tendrau ac astudiaethau achos
- Ffordd hawdd i chi wneud rhywbeth sy'n rhoi llawer o foddhad ac yn hynod werth chweil heb orfod dyrannu llawer o adnoddau iddo
- Ffordd wych o adnabod talent newydd i gynorthwyo â phrinder sgiliau
- Cysylltiadau Cyhoeddus cadarnhaol i'ch busnes
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Reconstruct (acornpeople.com)
Darganfyddwch sut y gall bod yn Fusnes Cyfrifol fod o fudd i'r bobl a'r lleoedd o'ch cwmpas tra'n cael effaith gadarnhaol ar eich busnes.