BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Arfor 2

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Aelod Dynodedig, Cefin Campbell wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £11m dros y tair blynedd nesaf yn Arfor 2.

Mae Arfor 2 yn rhaglen newydd a fydd yn cael ei darparu gan bartneriaid yn yr awdurdodau lleol a fydd yn helpu i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg.

Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru a chan adeiladu ar brofiad a'r gwerthusiad o raglen gynharach Arfor a lansiwyd yn 2019, bydd cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i bedwar Awdurdod Lleol, sef Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. 

Prif amcan Arfor 2 yw cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.

Bydd hefyd yn helpu o ran y canlynol:

  • creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd (o dan 35 oed) aros yn eu cymunedau cynhenid neu ddychwelyd iddynt – gan eu cefnogi i lwyddo'n lleol drwy gymryd rhan mewn menter neu ddatblygu gyrfa.
  • creu cymunedau mentrus mewn ardaloedd Cymraeg – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy'n ceisio cadw a chynyddu cyfoeth lleol drwy fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
  • manteisio i’r eithaf ar weithgarwch drwy gydweithio – er mwyn sicrhau bod arferion da a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu a bod gwaith monitro yn mynd rhagddo i sicrhau gwelliant parhaus.
  • cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg – drwy gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg a’i hamlygrwydd, gan annog ymdeimlad o le a theyrngarwch lleol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Rhaglen Arfor 2 gwerth £11 miliwn i hybu ffyniant economaidd mewn cymunedau Cymraeg | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.