BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen ARFOR: Cyfle i Gymunedau Arloesi a Mentro

Mae ARFOR, Rhaglen gwerth £11 miliwn ac sydd â nod clir o greu gwaith yn lleol a chryfhau’r iaith Gymraeg ledled siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin, nawr yn gwahodd ceisiadau i’w cronfa Cymunedau Mentrus. 

Dyma ail wedd y Rhaglen arloesol hon a ddaw fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Yn dilyn llwyddiant rhan gyntaf y Rhaglen mae ARFOR nawr yn cyhoeddi cyfleoedd am gefnogaeth drwy ffrwd waith Cymunedau Mentrus.

Dyma gyfle i gwmnïau, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol geisio am nawdd hyd at Fawrth 2025 er mwyn cefnogi cymunedau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu yn economaidd, ac yn sgil hynny atgyfnerthu’r iaith. 

Mae’r Rhaglen felly yn annog ymgeiswyr ledled y pedair Sir i fwrw iddi mewn modd creadigol ac arloesol, gan ddatblygu cynlluniau fydd yn sbarduno busnesau Cymreig newydd, yn gwarchod a chreu rhagor o swyddi lleol a thrwy hyn oll yn sefydlu mwy o ofodau.

I ddysgu mwy a gwneud cais ewch i wefan:

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Rhaglen ARFOR

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i’ch  cynghori  ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn eich busnes. Ac mae’r cwbl am ddim! I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.