Helpu busnesau uchelgeisiol i gydweithio ac ehangu mewn marchnadoedd newydd, gan gyflymu twf busnes.
Cefnogir hyd at 15 o fusnesau arloesol twf uchel yn ystod pob Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang (GBIP). Maent yn archwilio ac yn manteisio ar y cyfleoedd cydweithio, twf ac arloesedd sy'n bodoli mewn marchnad fusnes benodol o amgylch thema benodol, o amaeth-dechnoleg i ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r GBIP yn darparu gwybodaeth fanwl am y farchnad, cyflwyniadau a mewnwelediad diwylliannol y byddai BBaChau yn ei chael hi’n anodd eu cael eu hunain.
Mae gan GBIP dri cham:
- Paratoi ar gyfer y farchnad
- Ymweld â'r farchnad
- Manteisio ar y cyfle
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Global Business Innovation Programme | Innovate UK EDGE (ukri.org)