BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID y gwanwyn i bobl dros 75 oed a'r rheini sydd fwyaf agored i niwed

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn yn dechrau ar 1 Ebrill 2023 i'r rheini sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys pobl dros 75 oed.

Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), bydd y brechlyn yn cael ei gynnig i:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd y cynnig cyffredinol o frechiad atgyfnerthu COVID-19 yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023. Bydd grwpiau risg uwch a phobl sy'n datblygu cyflwr iechyd newydd sy'n eu gwneud yn gymwys i gael eu brechu yn dal i allu cael eu brechiad atgyfnerthu, os bydd meddyg neu glinigydd arall yn eu cynghori i’w gael.

Bydd pobl sydd heb dderbyn eu cwrs sylfaenol o frechiadau yn gallu gwneud hynny hyd at 30 Mehefin 2023. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi argymell bod modd gwneud y newidiadau hyn ar sail y lefel uchel o imiwnedd sydd wedi’i meithrin ymhlith y boblogaeth.

Yn ogystal â rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn, bydd rhaglen atgyfnerthu’r hydref yn cael ei chynnal yn hwyrach yn ystod y flwyddyn, yn dilyn cyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID y gwanwyn i bobl dros 75 oed a'r rheini sydd fwyaf agored i niwed | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.