BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd Busnes Cymru yn cyhoeddi enillwyr gwobrau entrepreneuriaid

person in an office wearing a yellow jumper using a laptop

Mae rhaglen cyflymu busnesau newydd i feithrin talent entrepreneuraidd fwyaf addawol Cymru wedi cyhoeddi enillwyr ei gwobrau diweddaraf.

Daeth Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd Busnes Cymru â 24 o entrepreneuriaid uchelgeisiol at ei gilydd ar gyfer taith ddwys 12 wythnos, gan ddarparu arweiniad arbenigol, mentora a chyfleoedd rhwydweithio i helpu i drawsnewid eu syniadau arloesol yn fusnesau ffyniannus. 

Daeth y rhaglen i ben gyda dathliad yn cydnabod chwe chyfranogwr am eu cynnydd a'u cyfraniadau eithriadol. Dangosodd yr enillwyr ymrwymiad a chreadigrwydd rhagorol ar draws ystod o gategorïau:

  • Gwobr Cyflymydd Gwerthiant: Trysten Lloyd, sylfaenydd Lyft Club - Platfform marchnata yw Lyft Club sy'n cysylltu ymarferwyr iechyd a ffitrwydd â darpar gwsmeriaid. Trwy integreiddio'r gwaith o adrodd straeon personol, mae'n arddangos gwasanaethau ymarferwyr wrth gynnig mynediad i gwsmeriaid at wybodaeth ategol sydd wedi ei dilysu.
  • Gwobr Cynnig Flex: Paul Tomotas, sylfaenydd AVA Steel Ltd - Mae AVA Steel Ltd. yn trawsnewid gwastraff y diwydiant dur yn ddeunyddiau crai cynaliadwy megis briquettes haearn a chrynodiad sinc. Mae'r cwmni'n defnyddio technoleg arloesol i leihau effaith amgylcheddol wrth gynnig atebion cost-effeithiol ar gyfer cynhyrchu dur gwyrdd.
  • Gwobr Pencampwr Cyflymydd: Andrea Jones, sylfaenydd VisVira Ltd - Mae VisVira Ltd yn datblygu gweithredwyr annibynnol i awtomeiddio tasgau ailadroddus, gan wella cynhyrchiant busnes. Mae'r gweithredwyr AI yn helpu sefydliadau i symleiddio prosesau, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar dwf ac arloesedd.
  • Gwobr Gwerthiant Cyflymaf: Dan Newman, sylfaenydd Baldilocks - Mae Baldilocks yn helpu pobl sy'n dioddef o drawma colli gwallt adennill eu sglein. Mae'n cyflawni hyn drwy greu profiadau llesiant a ariennir gan gwsmeriaid sy'n mwynhau siopa yn y 'Baldiverse'.
  • Gwobr Cyfranogwr Mwyaf Cydweithredol: Osian Evans, sylfaenydd Go Iawn - Datblygodd Go Iawn Antur Amser, sef llwyfan addysgol Cymraeg sy'n seiliedig ar stori sy'n integreiddio technoleg ymgolli i wneud dysgu'n rhyngweithiol ac yn ddeniadol. Mae'r llwyfan yn cefnogi llythrennedd Cymraeg mewn ystafelloedd dosbarth modern.
  • Gwobr Cyflymydd: Gareth Thomas, sylfaenydd Solitaire - Mae Solitaire.io yn llwyfan gêm indie sy'n cynnig casgliad o gemau solitaire a chardiau chwarae casgladwy. Trwy gyfuno gemau fideo â brandio arloesol, mae wedi tyfu ei sylfaen ddefnyddwyr yn gyflym ac wedi ehangu ei offrymau trwy fentrau cyllido torfol.

Meddai Richard Morris, Cyfarwyddwr Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru:

Rydyn ni'n hynod falch o garfan eleni a'u cynnydd eithriadol dros y 12 wythnos ddiwethaf. Mae eu harloesedd, eu penderfyniad a'u hysbryd entrepreneuraidd wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae'r gwobrau hyn yn adlewyrchu eu gwaith caled a'u potensial i effeithio ar eu sectorau yn sylweddol, ac rydyn ni'n gyffrous o weld eu busnesau'n tyfu ac yn ffynnu.  

Meddai Andrea Jones, enillydd Gwobr Pencampwr y Cyflymydd:

Mae'n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon. Mae'r Rhaglen Cyflymu Busnesau Newydd wedi bod yn brofiad trawsnewidiol, gan fy helpu i fireinio fy syniadau a chanolbwyntio ar ddatblygu VisVira. Ein nod ni yw chwyldroi sut mae busnesau'n trin tasgau ailadroddus, gan eu galluogi nhw i hybu cynhyrchiant a gweithio'n ddoethach. Mae'r fentoriaeth a'r amgylchedd cydweithredol wedi rhoi'r eglurder a'r hyder i mi gymryd y camau nesaf wrth wireddu'r weledigaeth hon.

Mae'r Cyflymydd Busnesau Newydd hwn yn rhan o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.