BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Cyswllt Diwydiannol MITs

MIT Boston

Dewch i ymuno â ni ar gyfer sesiwn rhwydweithio brecwast a gynhelir gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesi ym Mhrifysgol Caerdydd wrth i ni lansio aelodaeth newydd Llywodraeth Cymru o Raglen Cyswllt Diwydiannol MIT.

Yn ystod y sesiwn hon, cewch gyfle i glywed sgwrs gan Uwch Ddarlithydd MIT Dr Phil Budden, ar arloesi a phwysigrwydd ecosystemau rhanbarthol. 

Byddwch hefyd yn dysgu popeth am y Rhaglen Cyswllt Diwydiannol a’u cyfres o gynadleddau a darlithoedd sydd ar gael trwy aelodaeth Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys datblygiadau ymchwil a thechnoleg ddiweddaraf cyfadran MIT, gweld arddangosfa o’r sylfaen wybodaeth ILP a chlywed am y pecyn cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i alluogi arweinwyr busnes Cymru i ymweld â champws ac ecosystem MIT yn Boston.

Ymunwch â ni yn SBarc | SPark Heol Maendy Caerdydd, CF24 4HQ rhwng 9am (ar gyfer 9:30am) ac 11am ddydd Iau 12 Rhagfyr 2024.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gofrestru ar gyfer y digwyddiad: Business Wales Events Finder - Rhaglen Cyswllt Diwydiannol MIT - Llywodraeth Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.