BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Entrepreneuriaeth ACF i Fenywod

woman looking at a laptop

Dyma gyfle i feithrin y sgiliau hanfodol a chael yr hyfforddiant, cyngor, mentoriaeth, a mynediad at gyllid di-log sydd eu hangen i lansio eich busnes neu eich menter eich hun.

Mae Rhaglen Entrepreneuriaeth Assadaqaat Community Finance (ACF) i Fenywod wedi’i chynllunio ar gyfer menywod o bob cymuned yng Nghymru, gyda ffocws arbennig ar fenywod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

P'un a ydych yn ffoadur, yn geisiwr lloches, neu’n dod o gymuned fudol, os oes gennych chi syniad ar gyfer busnes neu'n ystyried sefydlu eich busnes eich hun, dyma’r rhaglen i chi!

  • Dyddiad: 31 Gorffennaf i 4 Medi 2024
  • Hyd: 2 awr yr wythnos (am 6 wythnos)
  • Amser: 12pm - 2pm bob dydd Mercher
  • Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
  • Cost: Am ddim (nifer cyfyngedig o lefydd)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â suzanne@assadaqaatcommunityfinance.co.uk neu ffoniwch 07974 253531.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.