Dyma gyfle i feithrin y sgiliau hanfodol a chael yr hyfforddiant, cyngor, mentoriaeth, a mynediad at gyllid di-log sydd eu hangen i lansio eich busnes neu eich menter eich hun.
Mae Rhaglen Entrepreneuriaeth Assadaqaat Community Finance (ACF) i Fenywod wedi’i chynllunio ar gyfer menywod o bob cymuned yng Nghymru, gyda ffocws arbennig ar fenywod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
P'un a ydych yn ffoadur, yn geisiwr lloches, neu’n dod o gymuned fudol, os oes gennych chi syniad ar gyfer busnes neu'n ystyried sefydlu eich busnes eich hun, dyma’r rhaglen i chi!
- Dyddiad: 29 Ionawr i 5 Mawrth 2025
- Hyd: 2 awr yr wythnos (am 6 wythnos)
- Amser: 12pm - 2pm bob dydd Mercher
- Lleoliad: Ar-lein (Zoom)
- Cost: Am ddim (nifer cyfyngedig o lefydd)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â suzanne@assadaqaatcommunityfinance.co.uk neu ffoniwch 07974 253531.
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru. Ond mae llawer iawn mwy eto i'w wneud i gynyddu nifer y menywod sy’n mentro i fyd busnes yng Nghymru. Mae Busnes Cymru yn parhau gefnogi ac annog mwy o fenywod i ddechrau, cynnal ac ehangu’u busnesau yng Nghymru ac i wireddu'u potensial. I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru