Newyddion

Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt 2025

Community garden in the summer

Ydych chi’n rhan o grŵp cymunedol, ieuenctid neu wirfoddol? Oes gan eich grŵp syniad prosiect i gysylltu pobl leol gyda natur? Ydych chi’n gwybod am ofod trefol fyddai’n ddelfrydol i’w drawsnewid?  

Os mai ydw yw’r ateb, ymgeisiwch i ymuno â Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt a dod a syniadau eich grŵp yn fyw!

Mae Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt yn chwilio am 20 o grwpiau cymunedol gwych o bob cwr o’r DU i ymuno â’r rhaglen yn 2025, grant o £2,000 i drawsnewid gofod trefol gyda phlanhigion neu ffyngau brodorol y DU, i annog bywyd gwyllt a chynnwys eich cymuned leol.

Mae ceisiadau ar gyfer Rhaglen Gymunedol 2025 Tyfu’n Wyllt wedi agor, bydd ceisiadau’n cau am 3pm, 13 Chwefror 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Rhaglen Gymunedol | Grow Wild | Kew

Tyfu’n Wyllt yw rhaglen allgymorth genedlaethol Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.