BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen ILP Cymru MIT yn cyflwyno Dathlu Menywod mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg – Mawrth 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfres o weminarau ar-lein tros ginio fydd yn cael eu cyflwyno gan arweinwyr dylanwadol yng nghyfadran MIT i ddathlu rôl menywod mewn STEM.

Ymunwch â'n sesiynau dysgu dros ginio ym mis Mawrth i ddysgu gan grŵp o fenywod sy'n gweithio mewn meysydd STEM ac yn datrys problemau mawr y byd, gan newid y ffordd y mae'r byd yn gweithio a lle cymdeithas ynddo.

Dim ond 20% o’r menywod yng Nghymru a enillodd radd mewn gwyddoniaeth ddilynodd gyrfa mewn pwnc STEM o'i gymharu â 44% o ddynion. Sut mae cynyddu amrywiaeth mewn STEM ac agor llwybrau gyrfa i daclo heriau’r byd?

Mae tua 10% o allyriadau Co2 y DU yn gysylltiedig â gweithgareddau adeiladu. Sut ydym am gyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd byd-eang a datgarboneiddio'r sector hwn a chyrraedd targedau sero net? 

Mae peirianneg biofeddygol wedi creu chwyldro i gleifion cardiaidd. Sut mae defnyddio lle mae therapi mecanyddol a therapi biolegol yn cwrdd i sicrhau’r arfer gorau?

Dyddiadau a siaradwyr isod:

  • 9 Mawrth 2022, Datgarboneiddio’r Diwydiant Adeiladu – Caitlin Mueller  
  • 16 Mawrth 2022, Grymuso Menywod mewn STEM ac Eirioli dros Amrywiaeth – Ritu Raman 
  • 31 Mawrth 2022, Ymchwilydd yn y Labordy Dylunio a Datblygu Technoleg Therapiwtig – Ellen Roche

Bydd pob sesiwn yn rhedeg rhwng 2pm a 3pm.

I gofrestru eich lle ar gyfer y seminarau MIT ewch i Digwyddiadur Busnes Cymru

Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ychwanegol dros e-bost ar sut i ymuno â’r sesiynau. Os ydych yn cael unrhyw broblemau neu os hoffech gysylltu â ni e-bostiwch: welshgovernmentILPMIT@gov.wales
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.