BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Resource Efficiency for Materials and Manufacture

Nod y rhaglen Resource Efficiency for Materials and Manufacture (REforMM) yw i'r DU fod yn arweinydd ym maes effeithlonrwydd adnoddau gyda sefydliadau’n deall effaith amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cylchred oes gyfan cynnyrch. 

Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £15 miliwn yn rhaglen REforMM, gyda sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU yn gallu gwneud cais am gyfran o hyd at £1 miliwn ar gyfer prosiectau astudio dichonoldeb.

Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar bum maes craidd:

  • deunyddiau ar gyfer economi'r dyfodol
  • dylunio clyfar
  • cadwyni cyflenwi gwydn
  • cynhyrchu o'r radd flaenaf
  • hirach mewn defnydd ac ailddefnyddio

Bydd y gystadleuaeth yn dod i ben am 11am ar 21 Rhagfyr 2022. 

I gael mwy o fanylion am y cwmpas, cymhwysedd a gwybodaeth ategol, cliciwch ar y ddolen ganlynol Resource efficiency for materials and manufacturing (REforMM) - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.