BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Sbarduno Geovation – Cyfle i wneud cais nawr!

Mae Rhaglen Sbarduno Geovation yn cael ei chefnogi gan yr Arolwg Ordnans a Chofrestrfa Tir EM. Mae’r Rhaglen yn cynnig cymorth dwys am 6 mis, wedi’i strwythuro yn unol ag anghenion pob busnes newydd er mwyn ceisio helpu sylfaenwyr i ddatblygu eu busnesau. Mae busnesau newydd yn derbyn cyllid grant o hyd at £20,000 a chyfwerth â dros £100,000 mewn buddion ar y Rhaglen.

Mae ceisiadau ar gyfer carfan Gwanwyn 2022 ar agor nawr ar gyfer busnesau newydd sy’n gweithio ym maes PropTech, ynghyd â busnesau newydd sy’n defnyddio data lleoliad yn y diwydiannau ynni a symudol, yn enwedig gydag elfen gynaliadwyedd.

Gwnewch gais am GeoTech neu PropTech

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Chwefror 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Geovation 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.