BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Sefydlwyr Du yn y Diwydiannau Creadigol

Digital content creator using a mobile phone for filming

Mae'r Rhaglen Sefydlwyr Du gan Digital Catapult yn rhaglen sbarduno 13 wythnos wedi'i thargedu at gwmnïau gan sefydlwyr Du sy'n creu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol yn y diwydiant creadigol ac sydd ar y cam sbarduno neu’r cam cychwynnol.

Nod y rhaglen yw cynnig llwybr cyflym i fusnesau newydd sydd â photensial twf uchel o safbwynt busnes a buddsoddi, gan ddarparu’r cymorth sydd ei angen i gynyddu lefel eu parodrwydd i fuddsoddi.

Mae Sony Music UK a Sony Music Publishing UK yn bartneriaid cydweithredol ar gyfer y rhaglen hon a byddant yn chwarae rhan weithredol wrth gefnogi twf busnes a hwyluso cysylltiadau lle bo modd.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael mynediad at y buddion canlynol:

  • Sganiau iechyd busnes a buddsoddi
  • Dosbarthiadau meistr, mentora a hyfforddiant gan arbenigwyr y diwydiant
  • Potensial ar gyfer cyfleoedd ariannu
  • Cyfleoedd i ymgysylltu â Sony Music UK a Sony Music Publishing UK

I wneud iawn am unrhyw gostau i fusnes yn sgil cymryd rhan yn y rhaglen, bydd pob busnes newydd yn cael cyfran gyfartal o gronfa o £30,000 fel cyfraniad ariannol tuag at gwblhau’r rhaglen. Mae gwneud cais a chymryd rhan yn y rhaglen yn rhad ac am ddim.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 7 Gorffennaf 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Black Founders Programme in Creative Industries - Innovate UK Business Connect (ktn-uk.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.