BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen Twf Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Cardiff Capital region

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ei Rhaglen Twf Busnes newydd sy’n ceisio meithrin datblygiad economaidd yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae’r rhaglen yn ceisio helpu 75 o fusnesau i dyfu yn y deg Awdurdod Lleol yn y rhanbarth. Mae’n canolbwyntio ar sectorau blaenoriaeth Technoleg Ariannol, Diwydiannau Gwyrdd, Technoleg Feddygol, Seiberddiogelwch, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a Diwydiannau Creadigol, ymhlith eraill.

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn mynychu gweithdy hyfforddiant trochi sy’n para deuddydd. Bydd yr hyfforddiant yn ymdrin â chynllunio strategol, meistroli gwerthiannau, rheoli talent, effeithlonrwydd gweithredol, a chraffter ariannol.

Y tu hwnt i addysgu strwythuredig, bydd y cyfranogwyr yn cydweithio, yn dysgu gan gyfoedion, ac yn cael cyfleoedd mentora, gan gysylltu ag entrepreneuriaid o’r un anian a chael gwybodaeth gan arweinwyr busnes profiadol. Yn ogystal, mae cyfle llwybr carlam ar gael i’r 12 cyfranogwr gorau, a fydd yn ymuno â Chyflymydd Twf Busnes Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan dderbyn mwy o gymorth dwys ac wedi’i deilwra.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer y garfan gychwynnol ar agor. Gall entrepreneuriaid a hoffai gymryd rhan gofrestru eu diddordeb yma.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn lansio Rhaglen Twf Busnes i gefnogi 75 o fusnesau ledled y Rhanbarth – Prifddinas-Ranbarth Caerdydd


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.