BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Rhaglen y Sefydliad Technoleg Awyrofod: Mynegiant o ddiddordeb Mehefin 2020

Mae Rhaglen y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI) yn cynrychioli buddsoddiad o £3.9 biliwn ar y cyd rhwng y llywodraeth a diwydiant i gynnal a datblygu sefyllfa gystadleuol y DU ym maes awyrofod sifil.

Mae’r rhaglen yn cael ei chydlynu a’i rheoli gan:

  • Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)
  • Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation
  • Y Sefydliad Technoleg Awyrofod

Cystadleuaeth mynegiant o ddiddordeb yw hon. Mae 3 cham a bydd yr holl broses yn cymryd o leiaf 6 mis.

I arwain prosiect neu weithio ar eich pen eich hun mae’n rhaid i’ch sefydliad:

  • fod wedi’i gofrestru fel busnes o unrhyw faint yn y DU ar gyfer prosiectau ymchwil
  • fod wedi’i gofrestru fel busnes o unrhyw faint yn y DU, sefydliad ymchwil a thechnoleg neu’n sefydliad academaidd ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf
  • cynnal eich ymchwil awyrofod neu waith prosiect buddsoddi cyfalaf yn y DU
  • fod yn bwriadu datblygu’r canlyniadau o’r DU neu yn y DU
  • mynd i’r afael â gofynion penodol Strategaeth Technoleg Awyrofod y DU
  • llofnodi cytundeb fframwaith y Sefydliad Technoleg Awyrofod

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich mynegiant o ddiddordeb yw 17 Mehefin 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan KTN.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.